Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys (NEPTS)

Welsh Ambulance Services NHS Trust NEPTS Vehicles

Mae'r Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys (NEPTS) yn cludo pobl yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty pan nad yw'n argyfwng. Mae'r bobl sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Cludiant Di-frys yn gleifion sy'n cwrdd â Meini Prawf Cymhwyster Llywodraeth Cymru ac yn gymwys i gael eu cludo i'r ysbyty ar gyfer apwyntiadau mewn clinigau neu am driniaeth yn yr ysbyty.

Mae staff NEPTS yn mynd trwy lawer o hyfforddiant gan gynnwys: gofal cwsmer, cymorth cyntaf, sgiliau gyrru arbenigol, symud a thrafod cleifion a sgiliau arbed bywyd sylfaenol ac yn defnyddio cerbydau a ddyluniwyd yn arbennig (gyda rampiau fel arfer) i sicrhau bod y cleifion yn cael eu cludo'n ddiogel ac yn gyffyrddus.