Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys (GCCDF)

Mae'r Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Argyfwng (GCCDF) yn cludo pobl i'r ysbyty ac oddi yno pan nad yw'n argyfwng.  Mae'r bobl sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Cludiant Di-argyfwng yn gleifion sy'n bodloni Meini Prawf Cymhwysedd Llywodraeth Cymru ac sy'n gymwys i gael cludiant i'r ysbyty ar gyfer apwyntiadau mewn clinigau neu i gael triniaeth yn yr ysbyty.


Mae staff GCCDF yn mynd drwy lawer o hyfforddiant gan gynnwys: gofal cwsmer, cymorth cyntaf, sgiliau gyrru arbenigol, symud a thrafod cleifion a sgiliau achub bywyd sylfaenol a defnyddio cerbydau sydd wedi'u cynllunio'n arbennig (gyda rampiau fel arfer) i sicrhau bod y cleifion yn cael eu cludo'n ddiogel ac yn gyfforddus.