Neidio i'r prif gynnwy
Steve Moore

Prif Swyddog Gweithredol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

hduhb.nhs.wales/

Ystwyth Building, Hafan Derwen, St Davids Park, Jobswell Road, Carmarthen, SA31 3BB

corporate.correspondence.hdd@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Prif Swyddog Gweithredol

Rydw i wedi gweithio i’r GIG am y rhan fwyaf o’r 30 blynedd ddiwethaf ac wedi cael y fraint anhygoel o fod yn Brif Weithredwr yn Hywel Dda ers mis Ionawr 2015.

Rydw i wedi treulio llawer o fy ngyrfa hŷn yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys arwain The Primary Care Trust yng Nghernyw ac yn Ynysoedd Syllan (Isles of Scilly). Roeddwn i hefyd yn gyfarwyddwr ardal yn Nyfnaint a Chernyw yn NHS England am gyfnod byr. Yn ystod y cyfnod treuliais i yn y sector preifat fel cyfarwyddwr ymgynghori ar gyfer polisi iechyd a gofal cymdeithasol yn ICF International, cefais olwg ffres ar yr heriau a’r cyfleoedd yn y GIG o safbwynt mwy rhyngwladol. Rwy’n gobeithio y bydd yr holl brofiad hwn yn creu argraff gadarnhaol yn fy rôl bresennol.

Rwy’n credu’n gryf fod angen i’n sefydliad fod y gorau y gall fod, a bod angen i ni sicrhau hyn drwy helpu ein staff i ddysgu, datblygu a thyfu. Mae cymaint gyda ni i’w wneud o hyd yn y maes hwn, ond hoffwn i weld Hywel Dda yn lle anhygoel i bobl ddatblygu a thyfu yn eu dewis yrfa. Drwy wneud hyn, rwy’n gwybod y byddwn ni’n gallu parhau i ddarparu’r gofal a chymorth rhagorol sydd eu hangen ar ein cleifion a’u teuluoedd.