Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Tracey Cooper

Prif Swyddog Gweithredol

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

phw.nhs.wales/

2 Capital Quarter, Tyndall Street, Cardiff, CF10 4BZ

Amdanaf i

Prif Swyddog Gweithredol

Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Tracey oedd Prif Weithredwr The Health Information and Quality Authority (HIQA) yng Ngweriniaeth Iwerddon ers 2006.

Cymhwysodd Tracey fel meddyg ym Mhrifysgol Southampton yn 1990 ac mae ei gyrfa wedi cynnwys gweithio’n glinigol yn y maes meddygaeth frys, gwasanaethau gofal brys a diwygio’r system iechyd.  Mae hi wedi gweithio ar amrywiaeth o systemau iechyd mewn gwahanol rannau o’r byd ac wedi cynghori arnynt hefyd.

Yn 2008, ymunodd Tracey â Bwrdd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ansawdd mewn Gofal Iechyd (ISQua) a daeth yn Llywydd y Gymdeithas yn 2011, gan orffen ei rôl fel y cyn-llywydd diwethaf ym mis Hydref 2015.