Neidio i'r prif gynnwy

Ymrwymiad

Ymrwymiad Adolygu Gwasanaeth EMRTS 2023

Mae EASC yn cynnal Adolygiad Gwasanaeth o’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys sy’n gweithio gydag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i ddarparu gwasanaeth ambiwlans awyr i boblogaeth Cymru.

Mae EASC wedi cytuno i adolygu sut mae’r gwasanaethau’n cael eu rhedeg ar hyn o bryd i gynyddu nifer y cleifion sy’n derbyn gwasanaeth heb newid seiliau gweithredol (gallwch ddarllen y cefndir i hyn yn nodiadau cyfarfod ffurfiol EASC Tachwedd 2022 a geir yma ).

Bydd Adolygiad Gwasanaeth EMRTS yn cynnwys proses ymgysylltu ffurfiol a phwrpas yr ymgysylltu fydd deall barn y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid a fydd yn helpu EASC i benderfynu beth i’w wneud nesaf.

Wrth i’r broses ymgysylltu a’r deunyddiau gael eu datblygu, mae rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol bellach ar gael ar y wefan hon i helpu i roi eglurder ar:

  • Sut y darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr mewn partneriaeth;
  • Pam mae angen y broses ymgysylltu; a
  • Manylion am sut mae'r broses ymgysylltu ffurfiol a'r broses benderfynu yn digwydd.

Mae cyfres o Ddiweddariadau Briffio Rhanddeiliaid hefyd ar gael sy'n esbonio mwy am gefndir yr Adolygiad.

Bydd manylion am yr amserlen ymgysylltu a sut y gallwch roi adborth yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon ond yn y cyfamser, gellir anfon unrhyw ymholiadau am Adolygiad Gwasanaeth EMRTS drwy'r ffurflen gyswllt / adborth ar-lein a geir ar dudalen Adolygiad Gwasanaeth EMRTS .

Daliwch i edrych yn ôl am ddiweddariadau pellach i'r wefan neu os hoffech ymuno â'n rhestr bostio ar gyfer yr ymgysylltiad hwn, anfonwch eich manylion mewn e-bost atom .

Diolch i chi am eich diddordeb parhaus yn yr Adolygiad Gwasanaeth EMRTS.