Mae parafeddygon a thechnegwyr meddygol brys wedi cael hyfforddiant helaeth ar bob agwedd ar ofal brys cyn mynd i’r ysbyty ac mae amrywiaeth eang o offer gofal brys gyda’n hambiwlansys i drin cleifion sy’n ddifrifol wael neu sydd wedi eu hanafu.
Rhaid i’r criwiau fod yn hynod o fedrus a rhaid iddyn nhw allu trin a sefydlogi cleifion yn eu cartref pan fydd yn briodol, neu allu trosglwyddo cleifion i’r ysbyty heb unrhyw oedi diangen. Mae angen iddyn nhw feddwl yn gyflym a bod yn bendant, ac eto rhaid iddyn nhw dawelu meddwl cleifion a’u perthnasau a gwneud iddyn nhw deimlo’n gysurus. Mae parafeddygon a thechnegwyr meddygol brys wedi cael eu hyfforddi i yrru mewn ymateb i argyfwng a gallen nhw weithio mewn ambiwlans neu mewn cerbyd ymateb cyflym.
Mae gwaith y ddau’n amrywiol ac yn heriol. Dydy’r criwiau ddim yn gwybod beth fydd natur yr alwad nesaf ond maen nhw’n gwybod y bydd y cleifion a’u perthnasau’n dibynnu arnyn nhw i gynnal asesiad a darparu triniaeth. Gallai hyn fod yn broses arferol, ond weithiau gallai hyn fod y gwahaniaeth rhwng bywyd, marwolaeth neu anabledd. Dydy’r amrywiaeth, y cyfrifoldeb a’r annibyniaeth sydd ynghlwm wrth y rolau hyn ddim yn addas i bawb, ond dyma beth sy’n gwahaniaethu rolau yn y gwasanaeth ambiwlans rhag rolau tebyg eraill yn y maes gofal iechyd. Ymhen amser, bydd cyfle i ddatblygu fel uwch ymarferydd parafeddygol yn ogystal â’r cyfle i ddatblygu fel uwch barafeddyg neu i symud ymlaen at rôl rheolwr gweithrediadau dyletswydd.
Mae gweithio mewn ambiwlans yn heriol ac yn anodd ei ragweld, ond dydy hi byth yn ddiflas. Gall hyn fod y swydd fwyaf gwerthfawr, ond weithiau mae’n heriol yn gorfforol ac yn emosiynol.