Neidio i'r prif gynnwy

Y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn un o Gyd-bwyllgorau pob Bwrdd Iechyd Lleol (LHBs) yn GIG Cymru ac sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Penododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gadeirydd Annibynnol drwy'r broses penodi cyhoeddus i arwain y cyfarfodydd ac mae pob Bwrdd Iechyd (HB) yn cael ei gynrychioli gan eu Prif Swyddog Gweithredol; mae'r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans hefyd yn aelod.

Mae'r Cyd-bwyllgor wedi'i sefydlu yn unol â'r Cyfarwyddiadau a'r Rheoliadau i alluogi'r saith BILl yn GIG Cymru i wneud penderfyniadau ar y cyd ar adolygu, cynllunio, caffael a monitro perfformiad Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Gwasanaethau Perthnasol), yr Adalw Meddygol Brys a Gwasanaeth Trosglwyddo. (EMRTS) a'r Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys ac yn unol â'u Swyddogaethau Dirprwyedig diffiniedig.

Er bod y Cyd-bwyllgor yn gweithredu ar ran y saith BILl wrth gyflawni ei swyddogaethau, mae BILl unigol yn parhau i fod yn gyfrifol am eu preswylwyr ac felly maent yn atebol i ddinasyddion a rhanddeiliaid eraill am ddarparu Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EAS); Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) a Gwasanaethau Cludiant Cleifion Di-frys (NEPTS).

Am fwy o wybodaeth am y pwyllgor neu gwaith Tîm EASC cysylltwch â: Ysgrifennydd Pwyllgor EASC