Neidio i'r prif gynnwy
Nicola Prygodzicz

Prif Swyddog Gweithredol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

abuhb.nhs.wales/

Ysbyty Sant Cadog, Lodge Road, Caerllion, Casnewydd, NP18 3XQ

Amdanaf i

Prif Swyddog Gweithredol

Dechreuodd Nicola weithio yn y GIG yn 1991 fel hyfforddai rheoli cyllid.  Ers cymhwyso yn 1995 fel Cyfrifydd Siartredig gyda CIPFA bu ganddi nifer o uwch swyddi cyllid ledled de Cymru, gan gynnwys 16 mlynedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ar ôl ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2014, fel Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol i ddechrau, aeth Nicola ymlaen yn gyflym i'w phenodi i rôl y Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gynllunio, Digidol a TG yn 2015 ac yn fwy diweddar cyflawnodd rôl y Dirprwy Brif Weithredwr.

Arweiniodd Nicola y Rhaglen Dyfodol Clinigol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd ac agor Ysbyty Athrofaol Grange yn 2020. Mae hi'n angerddol am welliant parhaus y gwasanaethau a sicrhau bod cleifion a'r cyhoedd wrth wraidd ein gwaith cynllunio. Mae Nicola hefyd yn eiriolwr cryf dros ddatblygu personol a hyfforddiant i sicrhau bod gan staff adnoddau da a'u hysgogi i gyflawni'r heriau o weithio i'r GIG. 

Cafodd Nicola ei phenodi fel Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2022.

Yn falch o weithio a byw yng Nghymru, mae Nicola yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau.