Neidio i'r prif gynnwy

Pam fod angen y Broses Ymgysylltu

Beth yw'r Cynnig Datblygu Gwasanaeth GCTMB gwreiddiol?

Datblygwyd y Cynnig Datblygu Gwasanaeth GCTMB gwreiddiol yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o'r gwasanaeth gan y tîm rheoli dan arweiniad clinigol yn GCTMB gan weithio mewn partneriaeth â'r Elusen.

Mae'r Cynnig Datblygu Gwasanaeth GCTMB yn disgrifio proses adolygu a gwerthuso sydd eisoes ar waith. Mae'r broses hon yn defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael ac mae eisoes wedi arwain at rai datblygiadau gwasanaeth gan gynnwys ymestyn o'i ddau leoliad gwreiddiol i wasanaeth pedair canolfan 24/7 ac wedi arwain at fwy o gleifion yn cael eu trin ac achub bywydau.

Roedd y dadansoddiad a’r modelu data gwreiddiol yn dangos yr angen am oriau gweithredu estynedig a newidiadau i leoliadau sylfaen (yn effeithio’n benodol ar Gaernarfon a’r Trallwng) er mwyn gwella’r gwasanaeth yn barhaus ar draws Cymru gyfan.

Pam mae PGAB yn cynnal Adolygiad Gwasanaeth GCTMB?

Derbyniwyd Cynnig Datblygu Gwasanaeth GCTMB gwreiddiol yng nghyfarfod Pwyllgor PGAB ar 8 Tachwedd 2022 Tachwedd 2022 - Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (nhs.wales) . Roedd nifer sylweddol o sylwadau ac ymholiadau eisoes wedi dod i law gan randdeiliaid allweddol o ardaloedd Caernarfon a'r Trallwng a chytunodd Aelodau'r Pwyllgor fod angen craffu pellach mewn rhai meysydd allweddol. Cydnabu'r Aelodau hefyd nifer y pryderon a dderbyniwyd gan ardaloedd rhanddeiliaid Caernarfon a'r Trallwng a chytunwyd y byddai'r craffu diduedd hwn yn cael ei wneud gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans (PGGA/CASC) a'r Tîm PGAB.

Bydd yr Adolygiad Gwasanaeth GCTMB a gynhelir gan PGAB yn annibynnol ar y tybiaethau, y cymariaethau a'r modelu a gynhwyswyd yn y Cynnig Datblygu Gwasanaeth GCTMB gwreiddiol.

Pam fod newidiadau yn cael eu hystyried ar gyfer y gwasanaeth?

Ers ei sefydlu, mae’r Gwasanaeth GCTMB, gan weithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, wedi/bob amser wedi archwilio opsiynau i wella ac addasu’r gwasanaeth yn barhaus i fodloni eu nodau a’u hamcanion, byddai hyn yn cynnwys edrych ar bob maes i fodloni cymaint o’r galw. yng Nghymru am y gwasanaeth arbenigol hwn â phosibl.

Mae'n ofynnol i'r gwasanaeth ymateb i'r Bwriadau Comisiynu a osodwyd gan PGAB. Dyma'r blaenoriaethau strategol a'u nod yw sicrhau disgwyliadau rhesymol ar gyfer gwelliant parhaus gwasanaethau. Ar gyfer 2022-23, mae’r rhain yn cynnwys ehangu gwasanaethau a defnyddio rhagolygon a modelu i lywio trawsnewid systemau.

Beth fydd y newidiadau sylfaenol arfaethedig yn ei olygu?

Nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig i'r canolfannau ar hyn o bryd. Bydd y broses ymgysylltu yn archwilio sut i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau ambiwlans awyr presennol a bydd yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael sy’n dod i’r amlwg fel rhan o’r broses ymgysylltu.

A oes cynlluniau i gau canolfannau Caernarfon a'r Trallwng?

Na. Mae'r Cynnig Datblygu Gwasanaeth GCTMB gwreiddiol bellach yn destun proses graffu annibynnol ac ymgysylltu â'r cyhoedd, dan arweiniad Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans (PGAB). Mae'r Cynnig Datblygu Gwasanaeth GCTMB gwreiddiol bellach wedi'i ddisodli gan yr hyn a elwir yn Adolygiad Gwasanaeth GATMB. Mae amser wedi mynd heibio ers y dadansoddi data a'r modelu gwreiddiol yn y cynnig cychwynnol, sy'n golygu bod mwy o ddata a bod modd cynnal dadansoddiad pellach. Bydd hyn yn cael ei wneud, yn ddiduedd ac yn annibynnol, gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans.

Sut gall cymunedau Caernarfon a'r Trallwng fod yn sicr o'r ymateb GCTMB priodol os oes unrhyw newidiadau i'r canolfannau?

Nid yw'r ymatebion i'r cymunedau o ran yr GCTMB yn newid. Mae hwn yn wasanaeth Cymru gyfan ac fe’i darperir i’r rhai sydd ei angen drwy’r broses ddyrannu. Darperir y gwasanaeth hynod gymhleth hwn gan dimau arbenigol ledled Cymru a chaiff timau eu hanfon i ddiwallu anghenion cleifion unigol ble bynnag y bônt. Ni fydd y ffordd y darperir y gwasanaeth i gleifion yn newid.